Beth yw Credyd Pensiwn?
Hawliad yw Credyd Pensiwn i bobl sy’n 60 oed neu’n hyn sy’n byw ym Mhrydain Fawr. Gallai hyn olygu arian ychwanegol i chi bob wythnos. Mae Credyd Pensiwn yn gwarantu i bawb sy’n 60 oed neu’n hyn, incwm sydd o leiaf yn:
- £130.00 yr wythnos os ydych yn sengl
- £198.45 yr wythnos os oes gennych bartner
Hefyd, os ydych chi neu’ch partner yn 65 oed neu’n hyn gallech gael eich gwobrwyo am gynilo ar gyfer eich ymddeoliad, hyd at:
- £20.40 os ydych yn sengl
- £27.03 yr wythnos os oes gennych bartner
Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn ac yn gymwys, gallech gael taliad wedi’i ôl-ddyddio (am hyd at 3 mis o’r dyddiad roeddech yn gymwys gyntaf i’r dyddiad y gwnaethoch gais gyntaf).
Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn, mae’n rhaid i chi fod yn o leiaf 60 oed neu o fewn pedwar mis o’ch penblwydd yn 60 oed. Nid yw o bwys os yw eich partner dan 60 oed.
Rydym yn defnyddio “partner” i olygu eich gwr, gwraig neu bartner sifil, neu’r person rydych yn byw gyda hwy fel petaech yn briod â hwy neu fel petaech mewn partneriaeth sifil â hwy.
O 2010 bydd yr oedran pan fyddwch yn gallu cael Credyd Pensiwn yn codi’n raddol. Bydd hyn yn unol â’r oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn dod yn 65 oed i ferched yn ogystal â dynion erbyn 2020.
I wneud cais am Gredyd Pensiwn ffoniwch 0800 99 1234
Mae llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am-8.00pm


