Credyd Pensiwn

Sut i wneud cais am Gredyd Pensiwn

Dros y ffôn

Gallwch wneud cais am Gredyd Pensiwn trwy ein ffonio ar rhadffon 0800 99 1234, ffôn testun 0800 169 0133 (8.00am i 8.00pm dydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am i 1.00pm dydd Sadwrn).

Byddwch angen y wybodaeth canlynol

  • Eich rhif Yswiriant Gwladol. Gallwch weld hwn ar eich slipiau cyflog, eich papurau treth neu lythyrau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Os na allwch ddod o hyd i'ch rhif Yswiriant Gwladol, peidiwch â phoeni, byddwn yn gallu chwilio am eich manylion pan fyddwch yn ein ffonio
  • Gwybodaeth am unrhyw arian sy'n dod i mewn i'ch cyfrif
  • Gwybodaeth am gostau tai,fel llog ar forgais neu fanylion am unrhyw rent tir

Bydd ymgynghorydd yn llenwi'r ffurflen gyda chi dros y ffôn ac yn ei hanfon atoch i chi gael ei gwirio a'i harwyddo.

Os byddai'n well gennych, gallech ofyn i rywun arall ffonio ar eich rhan.

Gallwch hefyd ffonio Llinell Gais Credyd Pensiwn ar radffôn 0800 99 1234 a gofyn am ffurflen gais wâg ar gyfer Credyd Pensiwn.

Wyneb yn wyneb

Rydym yn cynnig gwasanaeth wyneb yn wyneb i bobl y mae angen help arnynt. Ffoniwch y rhif rhadffôn 0800 99 1234 ac eglurwch eich anawsterau.

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn, gellwch nawr wneud cais am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor ar yr un pryd. Ffoniwch ni ar rhadffon 0800 99 1234.

I wneud cais am Gredyd Pensiwn ffoniwch 0800 99 1234

Mae llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am-8.00pm