Credyd Pensiwn

Enghreifftiau

Dyma ychydig o enghreifftiau i ddangos i chi faint o Gredyd Pensiwn y gallai pobl gydag amgylchiadau gwahanol ei gael.

Enghraifft 1 - Amy

Mae Amy yn 62 oed. Mae’n byw yng nghartref ei mab. Yr unig arian a gaiff yw ei Phensiwn y Wladwriaeth sy’n £90.70 yr wythnos.

Bydd Credyd Pensiwn yn rhoi £33.35 yr wythnos yn ychwanegol iddi. O ganlyniad bydd ei chyfanswm incwm wythnosol yn cynyddu i £124.05. Gallai Amy hefyd dderbyn ôl-ddyled os byddai’n gwneud cais dri mis ar ôl dyddiad ei phen-blwydd yn 60 oed. Gallai gael ôl-ddyled o tua £412.

Enghraifft 2 - Balbir a Manju

Mae Balbir a Manju yn 75 oed. Mae eu hincwm wythnosol fel a ganlyn:

Pensiwn y Wladwriaeth (Balbir) £90.70
Pensiwn y Wladwriaeth (Manju) £90.70
Pensiwn personol (Balbir) £16.00
Cynilion o £8,000 (rydym yn tybio £1 o incwm ar gyfer pob £500 neuran o £500 ar gyfer unrhyw gyniliondros £6,000) £4.00
Cyfanswm incwm wythnosol £201.40

Bydd Credyd Pensiwn yn rhoi £21.31 yr wythnosol yn ychwanegol iddynt. O ganlyniad bydd eu cyfanswm incwm wythnosol yn cynyddu i £222.71.

Enghraifft 3 - Betty

Mae Betty yn 66. Mae'n sengl ac yn berson ag anabledd difrifol. Mae ei hincwm wythnosol fel a ganlyn:

Pensiwn y Wladwriaeth £90.70
Lwfans Gweini (ni chyfrifir hwn fel incwm ar gyfer Credyd Pensiwn) £67.00
Cynilion o £5,000 (nid ydym yn tybio unrhyw incwm o'r cynilion hyn gan eu bod yn llai na £6,000) £0
Cyfanswm incwm wythnosol £157.70

Bydd Credyd Pensiwn yn rhoi £83.70 yr wythnos yn ychwanegol iddi. (Mae hyn yn cynnwys swm ychwanegol o £50.35 gan fod gan Betty anabledd difrifol). O ganlyniad, bydd ei chyfanswm incwm wythnosol yn cynyddu i £241.40.

Enghraifft 4 - Kathleen

Mae Kathleen yn 68 oed ac yn wraig weddw. Mae ei hincwm wythnosol fel a ganlyn:

Pensiwn y Wladwriaeth ei diweddar wr £97.50
Pensiwn gwaith Kathleen £20.00
Pensiwn gwaith ei diweddar wr £49.00
Cynilion o £11,500 (rydym yn tybio £1 o incwm ar gyfer pob £500 neu ran o£500 o gynilion sydd gennych dros £6,000) £11.00
Cyfanswm incwm wythnosol £177.50

Nid oes gan Kathleen hawl i Gredyd Pensiwn oherwydd fod ei hincwm yn rhy uchel. Gallai barhau i fod â hawl i Fudd-dal Treth Cyngor neu Fudd-dal Tai os yw hi’n denant. Buasai’r Gwasanaeth Pensiwn yn falch o wirio amcangyfrifon Kathleen. Dylai edrych eto os bydd ei hamgylchiadau’n newid ac hefyd bob mis Ebrill (pan fydd y graddau budd-dal yn cynyddu) i edrych os oes ganddi hawl i Gredyd Pensiwn.

I wneud cais am Gredyd Pensiwn ffoniwch 0800 99 1234

Mae llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am-8.00pm