Credyd Pensiwn

A oes gennyf hawl i gael Credyd Pensiwn?

I ganfod a allai fod hawl gennych i gael Credyd Pensiwn, mae angen i chi gyfrif eich incwm net wythnosol (ar ôl didyniadau) a chynilion.

Eich incwm

Rydym ond yn cyfrif mathau arbennig o incwm pan fyddwn yn gweithio eich Credyd Pensiwn allan. Mae’r mathau hyn yn cynnwys:

  • pensiynau (yn cynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, pensiwn gwaith neu bensiwn personol, taliadau Cynllun Cymorth Ariannol neu daliadau Cronfa Diogelu Pensiwn)
  • budd-daliadau arbennig (er enghraifft, Lwfans Gofalwr)
  • enillion o swydd

Cewch ragor o wybodaeth am Lwfans Gofalwr ar wefan Directgov.

Ymhlith y mathau o incwm nad ydynt yn cael eu cyfrif mae:

Eich cynilion

Pan fyddwn yn gweithio allan y swm o Gredyd Pensiwn y gallech ei gael, nid oes angen i ni wybod am unrhyw log neu fuddran a gewch o’ch cynilion. Yn hytrach, edrychwn ar y swm o gynilion sydd gennych a chyfrif £1 yr wythnos fel incwm ar gyfer pob £500 neu ran o £500 dros £6,000. (Mae’r ffigwr hwn dros £10,000 os ydych yn byw yn barhaol mewn cartref gofal).

Ymhlith y cynilion a buddsoddiadau rydym yn eu hystyried mae:

  • Arian mewn cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu swyddfa'r post
  • Unrhyw gynilon rydych chi neu eich partner yn gadw gartref
  • Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol a Bondiau Premiwm
  • Buddsoddiadau fel ISAs a PEPs
  • Cyfranddaliadau neu ymddiriedolaethau uned
  • Bond incwm, bond cyfalaf neu fond nain
  • Cyfranddaliadau neu ymddiriedolaethau uned
  • Eiddo a thir (ond heb gynnwys y lle rydych fel arfer yn byw)

Cofiwch

Nid yw byw gyda’ch teulu yn golygu na allwch gael Credyd Pensiwn. Ar eich incwm chi rydym yn edrych – nid eu hincwm hwy.

Hefyd, nid yw bod yn berchen ar eich cartref yn golygu na allwch wneud cais.

Hyd yn oed os rydym ond yn dyfarnu swm bychan i chi gall olygu y gallwch gael help gyda phethau eraill fel Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor.

Gall Y Gwasanaeth Pensiwn nawr eich helpu i wneud cais am Gredyd Pensiwn, a chais am Fudd-dal Treth Cyngor a Budd-dal Tai ar yr un pryd dros y ffôn.

Rhagor o wybodaeth

Rhagor o wybodaeth i bobl 60 i 64 oed

Rhagor o wybodaeth i bobl 65 oed neu hyn

I wneud cais am Gredyd Pensiwn ffoniwch 0800 99 1234

Mae llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am-8.00pm