65 oed neu'n hyn?
Os ydych chi neu'ch partner yn 65 oed neu'n hyn, mae Credyd Pensiwn yn gwarantu incwm sydd o leiaf yn:
- £124.05 yr wythnos os ydych yn sengl neu
- £189.35 yr wythnos os oes gennych bartner
Os ydych chi neu’ch partner yn 65 oed neu’n hyn a bod gennych gynilion cymhedrol, buddsoddiadau neu incwm – fel ail bensiwn neu flwydd-dal – gallech gael arian ychwanegol. Gallai hyn fod hyd at £19.71 yr wythnos os ydych yn sengl, neu £26.13 yr wythnos os oes gennych bartner. Golyga hyn y gallech barhau i fod yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn hyd yn oed os yw eich incwm hyd at:
- £174 os ydych yn sengl neu
- £255 os oes gennych bartner
Efallai y gallech barhau i gael Credyd Pensiwn os yw'ch incwm wythnosol yn fwy na'r symiau hyn os, er enghraifft, rydych chi neu'ch partner:
- yn berson sydd ag anabledd difrifol
- yn gofalu am berson sydd ag anabledd difrifol neu
- â chostau tai penodol - er enghraifft taliadau llog morgais
Os oes unrhyw un o'r rhain yn berthnasol i chi, efallai y bydd gennych hawl o hyd i gael Credyd Pensiwn, hyd yn oed os yw'r enghreifftiau neu'r siartiau yn awgrymu eich bod yn llai tebygol o hynny.
I wneud cais am Gredyd Pensiwn ffoniwch 0800 99 1234
Mae llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am-8.00pm


