60 oed neu'n hyn ac o dan 65 oed?
Rydych yn debygol o fod â’r hawl i Gredyd Pensiwn os yw eich incwm wythnosol yn llai na:
- £124.05 os ydych yn sengl
- £189.35 os oes gennych bartner
Mae’n bosibl y byddwch yn dal i allu cael Credyd Pensiwn os yw eich incwm wythnosol yn fwy na’r symiau hyn os, er enghraifft, rydych chi neu’ch partner:
- yn berson ag anabledd difrifol
- yn gofalu am berson sydd ag anabledd difrifol
- â chostau cartref penodol – er enghraifft, taliadau llog morgais
Cofiwch, mae angen i chi fod o leiaf 60 mlwydd oed i wneud cais am Gredyd Pensiwn, ond gall eich partner fod o dan 60 mlwydd oed.
Gallwch weld enghreifftiau,
defnyddio'r siartiau
neu ddefnyddio'r cyfrifiannell
i ddarganfod os ydych yn debygol o gael Credyd Pensiwn ai peidio.
I wneud cais am Gredyd Pensiwn ffoniwch 0800 99 1234
Mae llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am-8.00pm


