Gwybodaeth ar gyfer pensiynwyr
Mae gan Keep Warm, Keep Well wybodaeth eang i’ch
helpu i gadw ‘n gynnes ac iach yn y gaeaf.
Cewch
fwy o wybodaeth am Keep Warm, Keep Well ar wefan yr Adran Iechyd
Ymddeol dramor: Mae gwefan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad yn darparu cyngor cyffredinol ar gyfer y rhai sydd yn cynllunio ar gyfer ymddeol dramor. Mae'r rhestr yn cynnwys awgrymiadau ar sut i ddarganfod eich cyfrifoldeb treth a hawliau lles, beth rydych angen ei wneud cyn i chi adael a phan rydych yn cyrraedd, a manylion cyswllt ar gyfer y mudiadau rydych angen eu hysbysu ynglyn â'ch cynlluniau. Cewch fwy o wybodaeth ar wefan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad
Service Personnel and Veterans Agency: Mae'r Service Personnel and Veterans Agency yn darparu gwybodaeth
ar wneud cais am Bensiwn Anabledd Rhyfel, pensiwn Rhyfel Gwyr a Gwragedd
Gweddw a lwfansau atodol. Gallwch eu ffonio ar 0800 169 22 77, neu ffôn
testun 0800 169 34 58. Mae'r llinellau ffôn ar agor 8.15am i 5.15pm Dydd
Llun i Ddydd Iau, ac 8.15am i 4.30pm ar ddydd Gwener. Os ydych yn ffonio
o dramor y rhif yw +44 1253 866043.
Cewch fwy o wybodaeth ar wefan
y Service Personnel and Veterans Agency


