Cyngor cyffredinol
Cadarn dros Oed: Dyma ymgyrch y Llywodraeth i daclo
gwahaniaethu ar sail oedran ac i hybu buddion busnes amrywioldeb oed yn
y gweithle. Mae eu gwefan yn dangos Côd Ymarfer ar Amrywioldeb Oed yn
y Gwaith ac Ymarfer Da.
Cewch fwy o wybodaeth ar Wefan
Cadarn Dros Oed
Cyngor ar Bopeth: Cysylltwch â Chyngor ar Bopeth
am gyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim. Cewch fanylion eich Cyngor
ar Bopeth yn eich llyfr ffôn lleol.
Am fwy o wybodaeth ewch i
wefan Cyngor ar Bopeth
Consumer Education: Mae gwefan Consumer Education yn
cynnwys gwybodaeth a chyngor cyffredinol ar gyfer cwsmeriaid. Ar y safle
mae manylion am siopa, arian, y gyfraith, iechyd, amgylchfyd a gwybodaeth
ar sut i gwyno ynglyn â nwyddau diffygiol a gwasanaethau.
Am
fwy o wybodaeth ewch i wefan Consumer Education
Directgov: Mae’r safle hon yn eich arwain i’r
lle iawn am help a chyngor sydd ar gael drwy fudiadau gwirfoddol a’r
llywodraeth. Mae’n darparu gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer
mudiadau gwirfoddol a chymunedol, cyfleon hyfforddi a chyngor iechyd a
ffitrwydd.
Am fwy o wybodaeth
ewch i wefan Directgov
Swyddfa’r Warcheidwaeth Gyhoeddus: Mae’r Swyddfa’r
Warcheidwaeth Gyhoeddus yn darparu gwasanaethau diogelwch ariannol ar
gyfer pobl nad ydynt yn gallu rheoli eu materion ariannol eu hunain oherwydd
salwch meddwl
neu analluogrwydd. Maent hefyd yn cefnogi teuluoedd ac ymgynghorwyr y
person sydd â salwch meddwl, yn aml ar ôl i rhywun wneud cais
i’r llys i reoli materion ariannol y person hwnnw. Mae gan eu gwefan
wybodaeth ar beth i’w wneud os na all ffrind neu aelod o’r
teulu reoli eu materion eu hunain (penodi derbynnydd), yn ogystal a gwybodaeth
a llinell gymorth ar gyfer cwestiynau am benodi person i reoli materion
ariannol ac eiddo person arall ar yr achlysur pan nad yw’r person
yn gallu gweithredu (pwer atwrnai parhaol).
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan
Swyddfa’r Warcheidwaeth Gyhoeddus
If you live in Scotland, find out more from the Scottish Office of the Public Guardian website
Dolen Gyswllt Busnes: Mae’r wefan Business Link yn darparu gwybodaeth busnes uniongyrchol a mynediad i ystod eang o gefnogaeth busnes.


