Gwahaniaethu ar sail oedran
Yn Gadarn o Blaid Oedran
Ymgyrch y Llywodraeth yw Yn Gadarn o Blaid Oedran i ddod â gwahaniaethu ar sail oedran yn y gweithle i ben. Mae Yn Gadarn o Blaid Oedran yn cynnig enghreifftiau busnes o arfer da, cyngor a gwybodaeth am ddeddfwriaeth oedran.
Cewch ragor o wybodaeth am Yn Gadarn o Blaid Oedran a sut i gymryd rhan ar wefan Yn Gadarn o Blaid Oedran
Deddfwriaeth gwahaniaethu ar sail oedran
O Hydref 2006 bydd deddfwriaeth newydd yn gwahardd gwahaniaethu ar sail oedran mewn gwaith a hyfforddiant galwedigaethol.
Sefydlwyd ac ariannwyd Y Grwp Partneriaeth Oedran gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i ddarparu cyngor ar sut i baratoi ar gyfer cyflwyno y ddeddfwriaeth newydd. Cewch mwy o wybodaeth am y grwp Partneriaeth Oedran ar wefan Be Ready
Roedd yr ymgynghoriad - Cydraddoldeb ac Amrywiaeth: Materion Oedran - yn gofyn am eich barn ar nifer o faterion yn cynnwys:
- diddymu oedrannau ymddeol gorfodol oni bai bod cyflogwyr yn gallu cyfiawnhau yn wrthrychol yr angen i ddiswyddo ar oedran penodol
- recriwtio
- dethol a dyrchafu
- buddiannau cyflog a dim cyflog
- diswyddo annheg
- yswiriant yn gysylltiedig â chyflogaeth
- taliadau diswyddo statudol


