Canolfan Bensiwn Genedlaethol (NPC)
Rydym yn delio â newidiadau mewn amgylchiadau ac ymholiadau gan y rhan fwyaf o’r cwsmeriaid sy’n cael eu pensiwn wedi’i dalu’n uniongyrchol i mewn i fanc, gymdeithas adeiladu neu gyfrif cerdyn Swyddfa’r Post.
Cysylltwch â ni
Newidiadau mewn amgylchiadau ac ymholiadau
Gellwch ein ffonio rhwng 8am ac 8pm, dydd Llun i ddydd Gwener ar 0845 30 13 011 (ar gyfraddau lleol).
Neu os oes gennych anhawsterau clyw neu lleferydd, ffoniwch ffôn testun 0845 30 13 012.
Mae ein llinellau ffôn yn tueddu i fod yn dawelach yn y prynhawn ac at ddiwedd yr wythnos, felly efallai y buasai'n well gennych ffonio'r adeg hynny.
Ein rhif Typetalk yw 18001 0845 30 13 011
Gellwch anfon ffacs ar 0191 2182 087
Gellwch hefyd gysylltu â ni drwy'r post yn y cyfeiriad hwn:
National Pension Centre Tyneview Park
Whitley Road
Benton
Newcastle-upon-Tyne
NE98 1BA
Neu cysylltwch â ni drwy e.bost
Cyflawniadau
Derbyniodd y Ganolfan Bensiwn Genedlaethol gydnabyddiaeth ei bod wedi cyrraedd y safon ar gyfer Marc Siarter ym mis Ebrill 2006, a chadw statws achredu yn Ionawr 2007.
Ym mis Tachwedd 2005 derbyniodd y Ganolfan Bensiwn Genedlaethol achrediad i siarter RNID 'Louder than Words', a chael eu ail-achredu yn Nhachwedd 2006.
Safonau gwasanaeth cwsmeriaid.
Dewch i wybod rhagor am safonau gwasanaeth cwsmeriaid ac adborth cwsmeriaid y Ganolfan Bensiwn Genedlaethol




