Gwelliannau i’n gwasanaeth o ganlyniad i adborth cwsmer
Rydym yn cymryd eich cwynion o ddifrif ac o ganlyniad yn anelu i wella ein gwasanaethau. Dyma rai esiamplau o’ch adborth a beth rydym yn ei wneud i wella pethau i’n cwsmeriaid
Nid ydych yn ffonio’n ôl pob tro pan ddywedoch eich bod am wneud
Cyflwynom ddull ‘ffonio’n ôl’ cwsmer newydd i wneud yn siwr ein bod wedi ffonio cwsmeriaid yn ôl o fewn yr amser a gytunwyd.
Roedd amlen trwchus a anfonwyd i’r Ganolfan Pensiwn wedi’i rwygo yn y post
Cytunom y dylai eitemau trwchus gael eu hanfon mewn parsel wedi’i selio ac eu diogelu mewn amlen polythen. Anfonwyd neges ‘ymarfer da’ i staff yn y Gwasanaeth Pensiwn.
Mae’r rhan gohirio cais newydd Pensiwn y Wladwriaeth yn cymryd amser hir
Rydym yn blaenoriaethu ein achosion gohirio i wneud yn siwr eu bod yn cael eu trin ynghynt.
Weithiau rwyf yn derbyn y ‘slipiau cyfarchion’ anghywir neu nid ydynt wedi ei cwblhau yn llawn
Rydym yn rhoi y slip cyfarchion cywir yn ein llythyr newyddion staff gyda cyfarwyddiadau ar sut i’w gwblhau.
Mae gennyf broblemau yn gwirio dogfennau sydd eu hangen ar gyfer Taliadau Tanwydd Gaeaf
Rydym wedi siarad â’n cyd-weithwyr yn y Ganolfan Byd Gwaith ac wedi cynhyrchu hysbysiad yn eu hatgoffa o pa weithred sydd angen ei chymryd.
Nid ydwyf bob amser yn derbyn daTganiad o fanylion ar ôl ffonio’r Llinell Gais Credyd Pensiwn
Rydym wedi cywirio nam ar ein system
Derbyniais amlenni nad oeddynt wedi eu selio
Rydym wedi adnabod casgliad o ddeunydd ysgrifennu diffygiol a thynnu’r amlenni rhag cael eu defnyddio.


