Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni

Mae’r dudalen hon ar gyfer ymholiadau ynglyn â budd-daliadau a gwasanaethau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn â budd-daliadau a gwasanaethau yng Ngogledd Iwerddon, ymwelwch â gwefan Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol Gogledd Iwerddon

Rydym wedi sefydlu rhwydwaith o ganolfannau pensiynau ledled Cymru, Lloegr a’r Alban i ddelio â’ch ymholiadau sy’n ymwneud â phensiynau. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Amdanom ni

Os oes gennych unrhyw gwyn neu sylw, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn drwy’r post neu dros y ffôn, ffacs neu’r e-bost.

Os yw eich ymholiad ynglyn â Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol

Os yw eich ymholiad ynglyn â Thaliadau Tanwydd Gaeaf, cysylltwch â Llinell Gymorth Taliad Tanwydd Gaeaf

Cysylltwch â ni

Y Gwasanaeth Pensiwn
Blwch Post 8
Abertawe
SA80 8AH

Gallwch ffonio’r Gwasanaeth Pensiwn o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8.00am i 8.00pm ar 0845 60 60 265* (0845 60 60 275* ar gyfer siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru).

Os oes gennych nam ar eich clyw neu ar eich lleferydd, mae gwasanaeth ffôn testun ar gael ar 0845 60 60 285* (0845 60 60 295* yn y Gymraeg).

Mae ein llinellau ffôn yn dueddol o fod yn llai prysur yn y prynhawniau a thuag at ddiwedd yr wythnos os byddai’n well gennych ffonio bryd hynny. Rydym yn recordio galwadau i’n helpu i ddarparu gwasanaeth cywir a chyson ac at ddibenion hyfforddiant a diogelwch.

* Codir cyfraddau lleol ar alwadau o linellau ffôn BT. Efallai y bydd costau ar gyfer galwadau o ffonau symudol, cebl a darparwyr rhwydwaith eraill yn wahanol. Gallwn eich ffonio yn ôl os byddwch yn gofyn.

Braille, casét sain, ffôn testun ac iaith arwyddion.

Rydym yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ar ffurfiau eraill ar gyfer y rhai sydd â nam ar eu golwg neu ar eu clyw. Gofynnwch i’ch canolfan bensiynau neu swyddfa nawdd cymdeithasol, neu archebwch wybodaeth ar y ffurfiau hyn ar-lein.