Newid mewn amgylchiadau
Os ydych yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth, Pensiwn y Wladwriaaeth Ychwanegol, Pensiwn Dros 80 Oed neu Credyd Pensiwn ac angen dweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau, cysylltwch â’ch Gwasanaeth Pensiwn
Os ydych yn derbyn Taliad Tanwydd Gaeaf ac angen dweud wrthym am y newid yn eich manylion, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf
Beth rydym angen angen ei wybod?
Dywedwch wrthym yn syth os fydd unrhyw o’r pethau canlynol yn newid:
Eich manylion personol
- Mae eich manylion banc yn newid
- Rydych yn newid eich enw
- Rydych yn dod yn anabl
- Rydych yn priodi neu ysgaru
- Daethoch yn ran o bartneriaeth sifil neu mae’ch partneriaeth sifil wedi’i ddiddymu
- Mae eich partner neu briod yn marw
- Rydych yn dechrau neu roi’r gorau i wneud gwaith gwirfoddol
Ple rydych yn byw
- Rydych yn symyd ty
- Rydych yn mynd dramor
- Rydych yn mynd i mewn i’r ysbyty neu mae rhywun rydych yn gwneud cais drostynt yn mynd i mewn i’r ysbyty
- Rydych yn y ddalfa yn bwrw dedfryd a benwyd gan y llys
- Rydych yn mynd i mewn i gartref gofal preswyl neu gartref nyrsio
Y rhai sydd yn byw gyda chi
- Eich partner neu briod yn symud i mewn gyda chi neu yn symud i ffwrdd
- Mae rhywun nad ydynt yn dibynnu arnoch yn ariannol yn symud i mewn neu allan o’ch cartref.
Eich sefyllfa ariannol
- Rydych wedi cael dyfarniad o fudd-dal
- Mae unrhyw fudd-daliadau arall rydych yn ei dderbyn wedi newid
- Mae unrhyw incwm arall rydych yn ei dderbyn yn newid
- Mae eich cynilion neu fuddsoddiadau yn newid*
- Mae eich pensiwn galwedigaethol yn newid*
- Rydych yn dechrau neu'r rhoi'r gorau i wneud gwaith â thâl
* Os ydych yn derbyn Credyd Pensiwn neu wedi cael dyfarniad o Gyfnod Incwm wedi’i Asesu nid ydych angen dweud wrthym am y newidiadau yn eich cynilion a buddsoddiadau neu bensiynau galwedigaethol.


