ABC

Bydd y rhestr ABC hon yn eich rhoi ar y cyfeiriad cywir i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hawliadau neu wasanaethau y gallech eu cael unwaith y byddwch yn bensiynwr. Gallwch hefyd chwilio am opsiynau pensiwn sy'n agored i chi os ydych yn cynllunio neu'n adolygu eich incwm ymddeol.

Neu ymwelwch ag adran A i Y ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau am fwy o opsiynau.

Adroddiad blynyddol: Darllenwch neu argraffwch adroddiad blynyddol Y Gwasanaeth Pensiwn yn ein hadran Amdanom ni.

AEE: Mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) yn cynnwys holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd - Awstria, Gwlad Belg, Bwlgaria, y Weriniaeth Siec, Cyprus, Denmarc, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Groeg, Hwngari, Iwerddon, yr Eidal, Latfia, Lithuania, Lwcsembwrg, Malta, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Romania, Slofacia, Sbaen, Sweden a Cyprus, yn ogystal â Gwlad yr Ia, Liechtenstein a Norwy.

Mae’r DU hefyd yn rhan o’r AEE. Ystyr y DU yw Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ond nid Ynysoedd y Sianel nac Ynys Manaw.

Caiff Gibraltar ei thrin fel gwlad arall yn yr AEE gan y DU. Mae gwledydd eraill yr AEE yn trin Gibraltar fel rhan o’r DU.

Nid yw’r Swistir yn aelod o’r AEE, ond o ganlyniad i gytundeb gyda’r UE a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002, mae’r rhan fwyaf o reolau’r UE ar nawdd cymdeithasol yn cwmpasu’r Swistir hefyd. Fodd bynnag, nid yw rheolau’r UE yn berthnasol i wladolion y Swistir sy’n mynd i Wlad yr Ia, Liechtenstein neu Norwy neu’n dod ohonynt neu wladolion y gwledydd hyn sy’n mynd i’r Swistir neu’n dod ohoni.

Ystyr Prydain Fawr yw Cymru, Lloegr a’r Alban.Cofiwch mai canllaw cyffredinol i fudd-daliadau a chynlluniau yn unig yw’r wefan hon ac nid yw’n ddatganiad llawn ac awdurdodedig o’r gyfraith.

Afiechyd a achoswyd yn y gwaith: gweler Anafiadau yn y gwaith

Ail Bensiwn y Wladwriaeth: Telir Ail Bensiwn y Wladwriaeth (hefyd yn cael ei adnabod fel Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol) ar ben Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Tan fis Ebrill 2002, roedd fel arfer yn cael ei alw’n SERPS ac yn dibynnu’n llwyr ar y cyfraniadau Yswiriant Gwladol y gwnaethoch eu talu fel cyflogai. O fis Ebrill 2002, diwygiwyd Ail Bensiwn y Wladwriaeth yn SERPS i ddarparu Ail Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol gwell ar gyfer enillwyr isel a chymedrol, ac i ehangu mynediad i rai gofalwyr a phobl anabl hirdymor. Darganfyddwch fwy am Ail Bensiwn y Wladwriaeth ar gyfer gofalwyr

Gallech gael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol hyd yn oed os nad ydych yn cael unrhyw Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

Rhagor o wybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol. Darllenwch neu argraffwch ein canllaw ar etifeddu SERPS neu darllenwch adran SERPS ar y wefan hon.

Amgueddfeydd ac orielau: Os ydych yn 60 oed neu’n hyn, gallwch nawr fwynhau mynediad am ddim i’r rhan fwyaf o amgueddfeydd ac orielau. Rhagor o wybodaeth am gyfraddau pensiynwyr i amgueddfeydd ac orielau

Anabl yn y gwaith: Ewch i Anafiadau yn y gwaith

Anafiadau neu salwch o’r gwaith: Os ydych wedi bod yn anabl drwy ddamwain yn y gwaith neu’n dioddef afiechyd neu fyddardod a achoswyd gan swydd y gwnaethoch, efallai y gallwch wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol. Cewch ragor o wybodaeth am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith.

Anafiadau, afiechyd neu anabledd yn y gwaith: Ewch i Anafiadau yn y gwaith

Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol Gogledd Iwerddon: Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ymwelwch â gwefan Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol Gogledd Iwerddon yn www.dsdni.gov.uk

Astudiaeth Hydredol Gwaith a Phensiynau: Rhaglen yw’r Astudiaeth Hydredol Gwaith a Phensiynau sy’n caniatáu rhannu gwybodaeth ynglyn â budd-daliadau a chyflogaeth ddelir gan DWP ar ei chwsmeriaid, gyda chofnodion cyflogaeth gan Cyllid a Thollau EM. Darganfyddwch fwy am yr Astudiaeth Hydredol Gwaith a Phensiynau ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau

Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA): Mae’n darparu gwybodaeth gyffredinol am wasanaethau a chynnyrch ariannol. Gallwch ffonio 0845 606 1234. Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8am i 8pm. Codir cyfraddau lleol ar alwadau.Gweler www.fsa.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth