Math o bensiwn cost isel yw pensiwn rhanddeiliaid. Gallwch brynu pensiwn rhanddeiliaid gan gwmni gwasanaethau ariannol masnachol fel banc, cwmni yswiriant neu gymdeithas adeiladu.
Mae'n rhaid i bensiynau rhanddeiliaid fodloni nifer o safonau gofynnol y llywodraeth i sicrhau eu bod yn cynnig gwerth am arian a hyblygrwydd. Mae'r safonau hyn yn cynnwys:
Noder: Bydd y tâl blynyddol ar gyfer aelodau a
bwrcasodd eu cynllun pensiwn y wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2005 yn aros yn
1% cyhyd y byddant yn aros yn y cynllun. Fodd bynnag, os bydd aelodau
am symud i gynllun pensiwn rhanddeiliaid arall ar neu ar ôl 6 Ebrill
2005, bydd terfyn tâl newydd o 1.5% yn berthnasol am y deng mlynedd
gyntaf o aelodaeth o’r cynllun newydd hwnnw.
Gallwch ddarllen neu argraffu copi o’n canllaw i bensiynau rhanddeiliaid, o’r enw Pensiynau rhanddeiliaid - Eich Canllaw (PM8W) o’n canolfan adnoddau ar wefan Y Gwasanaeth Pensiwn.
Gallwch hefyd ffonio ein Llinell Gwybodaeth Pensiynau ar: 0845 7 31 32 33 neu ffôn testun: 0845 604 0210. Codir cyfraddau lleol ar alwadau ac mae'r llinell ar agor 24 awr y dydd. Neu, gallwch ysgrifennu at:
Pension Guide
Freepost RLXH-JUEU-GZCH
Northampton
NN3 6DF
Gallwch hefyd ymweld â gwefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol i gael gwybodaeth am amrywiaeth o gynnyrch a materion ariannol personol. Mae hefyd adran ar bensiynau sy'n cynnwys pensiynau rhanddeiliaid.
Gallwch hefyd gysylltu â’r llinell gymorth, a redir gan Y Gwasanaeth Ymgynghori Pensiynau ac a ariennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Mae’r llinell gymorth yn delio ag ymholiadau cwsmeriaid am bensiynau rhanddeiliaid, galwedigaethol a phersonol ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am i 5.00pm. Neu gallwch ymweld â gwefan Ymgynghori Pensiynau
Mae'n ofynnol i lawer o gyflogwyr yn ôl y gyfraith gynnig mynediad i gynllun pensiwn rhanddeiliaid i'w cyflogeion. Bydd rhai cyflogwyr fodd bynnag wedi'u heithrio. I gael gwybod os effeithir arnoch, gweler ein canllaw, Pensiynau rhanddeiliaid - canllaw i gyflogwyr (English). Gallwch archebu copi o Linell Archebu Cyflogwyr Cyllid y Wlad ar: 08457 646 646. Mae’r llinell archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am - 8pm, a dydd Sadwrn, 10.00am - 1.00pm.
Efallai y bydd y canlynol hefyd yn ddefnyddiol i chi:
Gall cwmnïau gwasanaethau ariannol sy'n dymuno cofrestru fel darparwr cynllun pensiwn rhanddeiliaid wneud hynny drwy ddefnyddio'r ffurflenni cofrestru yn y pecyn cais. Archebwch eich copi o wefan Cyllid y Wlad. Gweler hefyd ein canllaw - Pensiynau rhanddeiliaid - canllaw i gofrestru fel darparwr cynllun pensiwn rhanddeiliaid (English)
Mae gan adran Darparwyr ac Ymgynghorwyr gwefan Y Gwasanaeth Pensiwn gyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer ymgynghorwyr gwasanaethau ariannol a darparwyr cynlluniau.
Gall y canlynol hefyd fod yn ddefnyddiol i chi.
Rheolau a deddfwriaethau
Os oes gennych unrhyw ymholiad sy'n gysylltiedig â:
Cofiwch mai canllaw cyffredinol i fudd-daliadau a chynlluniau yn unig yw'r wefan hon, ac nid yw'n ddatganiad llawn ac awdurdodedig o'r gyfraith.