Cynllun pensiwn preifat a redir gan rai cyflogwyr yw pensiwn galwedigaethol ac mae hefyd yn cael ei adnabod fel pensiwn gwaith, pensiwn cwmni neu flwydd-dal.
Os yw'ch cyflogwr yn rhedeg cynllun pensiwn galwedigaethol, dylech ofyn iddo pwy y dylech gysylltu ag ef i gael rhagor o wybodaeth am y math o gynllun y mae'n rhedeg a ph'un a allech ymuno ag ef ai peidio.
Telir pensiynau galwedigaethol yn ychwanegol at unrhyw Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y gallech ei ennill. Mae sawl math gwahanol o bensiwn galwedigaethol. Bydd rhai o'r rhain yn effeithio ar unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol y gallech fod wedi'i ennill o dan Ail Bensiwn y Wladwriaeth (SERPS yn flaenorol). I gael rhagor o wybodaeth gweler 'Eithrio'.
Ar gyfer y rhan fwyaf o gynlluniau, bydd y swm a gewch fel arfer yn dibynnu ar ba mor hir rydych wedi bod yn aelod o'ch cynllun pensiwn a'ch enillion wrth ymddeol. Ar gyfer cynlluniau eraill, bydd y swm a gewch yn dibynnu ar y swm o arian a delir i mewn iddo a pha mor dda y mae wedi cael ei fuddsoddi.
Os nad ydych yn gallu ymuno, neu'n dymuno peidio ag ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol byddwch fel arfer yn gallu cyfrannu naill ai at bensiwn personol neu bensiwn rhanddeiliaid os mai dyna beth rydych yn ei ddymuno ac yn gallu ei fforddio. Bydd y pensiwn a gewch o'r mathau hyn o gynllun yn dibynnu ar faint o arian a delir i mewn iddo a pha mor dda y mae wedi cael ei fuddsoddi.
Os nad ydych yn siwr sut bydd pensiwn galwedigaethol eich cyflogwr yn effeithio ar eich Ail Bensiwn y Wladwriaeth, gallwch gael gwybodaeth gan eich cyflogwr ac o gyfres o daflenni am bensiynau.
Gallwch ddarllen neu argraffu neu ofyn am gopïau o'r taflenni hyn, neu eu harchebu drwy'r Llinell Gwybodaeth am Bensiynau ar: 0845 7 31 32 33, neu drwy ysgrifennu i:
DWP Pensions
Freepost BS5555/1
Bristol
BS99 1BL
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am Gredyd Pensiwn.
Gallwch wneud cais am Ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth
Gweler hafan Y Gwasanaeth Pensiwn i gael rhagor o wybodaeth am gynllunio ar gyfer ymddeol. Mae'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol hefyd i bobl sydd wedi ymddeol, cyflogwyr a darparwyr ac ymgynghorwyr gwasanaethau ariannol.
Lwfans Ceisio Gwaith (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan y Ganolfan Byd Gwaith)
Cymhorthdal Incwm (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan y Ganolfan Byd Gwaith)
Cofiwch mai canllaw cyffredinol i fudd-daliadau a chynlluniau yn unig yw'r wefan hon, ac nid yw'n ddatganiad llawn ac awdurdodedig o'r gyfraith.