Mae Budd-dal Treth Gyngor yn helpu i dalu tuag at eich bil Treth Gyngor neu'n ei dalu i gyd, p'un a ydych yn rhentu neu'n berchen ar eich ty, neu'n byw yn ddi-rent.
Gall pobl sydd ar incwm isel sy'n talu Treth Gyngor gael hawl i help. Mae cyflwyno Credyd Pensiwn yn golygu bod llawer mwy o bensiynwyr bellach yn gymwys i gael Budd-dal Treth Gyngor am y tro cyntaf. Ond nid oes rhaid i chi fod yn cael Credyd Pensiwn neu fudd-daliadau eraill i fod yn gymwys.
Bydd y cyngor yn edrych ar yr arian sydd gennych chi a'ch partner yn dod i mewn yn ogystal â'ch cynilion. Bydd y cyngor hefyd yn edrych ar amgylchiadau eraill fel eich oedran a ph'un a oes unrhyw un arall yn byw gyda chi. Gyda'r wybodaeth hon bydd y cyngor yn gweithio allan a ydych yn gymwys i gael Budd-dal Treth Gyngor. Os gallwch gael Budd-dal Treth Gyngor, ni fydd hyn yn effeithio ar faint o arian rydych yn ei gael mewn budd-daliadau eraill.
Gwnewch gais ar unwaith - mae Budd-dal Treth Gyngor ar gael nawr. Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith byddwch yn cael ffurflen i wneud cais am Fudd-dal Treth Gyngor gyda'ch cais. Os nad ydych yn hawlio un o'r rhain, gallwch gael ffurflen gais Budd-dal Treth Gyngor o wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Gallwch hefyd gael ffurflen gais gan eich cyngor lleol. Mae eu rhif ffôn a'u cyfeiriad yn adran rhifau busnes y llyfr ffôn, neu ymwelwch â'u gwefan i gael rhagor o wybodaeth.
Dod o hyd i'ch
cyngor lleol ar wefan budd-daliadau tai IRRV
Rhagor o wybodaeth am Gredyd Pensiwn
Cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn