Treth ac etifeddu
Rheolau treth
Mae eich trefniadau treth presennol yn debygol o newid pan fyddwch yn ymddeol.
Mae'r rheolau presennol yn golygu pan fyddwch dros 65 oed, efallai y gallwch gael lwfans personol sy'n gysylltiedig ag oedran sy'n fwy hael na'r lwfans personol arferol ar gyfer treth.
Rheolau etifeddu
Hefyd, os oes gennych Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol (pensiwn SERPS cynt, Ail Bensiwn y Wladwriaeth bellach), mae rhywfaint o wybodaeth bwysig y mae angen i chi wybod am etifeddu'r pensiwn hwn.
Y swm uchaf o Ail Bensiwn y Wladwriaeth y gall person ei etifeddu fydd 50% ac mae rheolau arbennig ar gyfer SERPS. Gallwch ddarllen ac argraffu copi o Etifeddu SERPS - Gwybodaeth bwysig ar gyfer pobl briod o'r ganolfan adnoddau neu ddarllen rhagor o wybodaeth ar-lein
Gwneud y gorau o fywyd diweddarach
Rhagor o wybodaeth ynglyn â lwfansau treth personol ar wefan Directgov
Rhagor o wybodaeth ynglyn â sut y caiff eich pensiwn ei drethu ar wefan Directgov
Rhagor am reolau treth
Dylech edrych ar y wybodaeth Arian a Threth yn ein hadran ymddeol. Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn ein Canllaw i Bensiynwyr. Darllenwch ac argraffwch y Canllaw i Bensiynwyr


