Agosáu at ymddeol

Cysylltau perthnasol

Cymorth ychwanegol

Mae amrywiaeth lawn o help ar gyfer pensiynwyr ar gael drwy lywodraeth ganolog a llywodraeth leol.

Mae rhywfaint o help ar gael i bob person dros oedrannau penodol ac mae rhywfaint ar gael dim ond i'r rheini sydd ei angen. Er enghraifft, mae Taliadau Tanwydd Gaeaf ar gael i'r rhan fwyaf o bobl sy'n 60 oed a throsodd ac os ydych ar incwm isel, efallai y gallech gael arian ychwanegol drwy Gredyd Pensiwn.

Beth yw Credyd Pensiwn?

Hawliad newydd yw Credyd Pensiwn i bobl 60 oed a throsodd a gyflwynwyd gan y Llywodraeth ym mis Hydref 2003. Cewch ragor o wybodaeth yn adran Credyd Pensiwn y wefan hon.

Beth yw Taliad Tanwydd Gaeaf?

Os ydych yn 60 oed neu'n hyn, gallai fod hawl gennych i gael Taliad Tanwydd Gaeaf i'ch helpu gyda'ch biliau gwresogi yn y gaeaf. Telir y rhain yn awtomatig i'r rhan fwyaf o bobl, ond er mwyn gweld a oes angen i chi wneud cais, gallwch ffonio'r llinell gymorth ar 0845 9 15 15 15 (dydd Llun-dydd Gwener o 8.30am i 4.30pm). Codir cyfraddau lleol ar alwadau.

Gwneud y gorau o fywyd diweddarach

Mae adran Dros 50 gwefan Directgov yn eich cyfeirio i'r cyfeiriad cywir ar gyfer help a chyngor sydd ar gael drwy'r Llywodraeth a mudiadau gwirfoddol.

Mae'n darparu gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer mudiadau cymunedol a gwirfoddol, cyfleon hyfforddiant a chyngor ar iechyd a ffitrwydd.

Rhagor am fathau eraill o help y llywodraeth

Gallwch ddarllen ac argraffu copi o Canllaw i Bensiynwyr neu ddarllen am amrywiaeth eang o help sydd ar gael drwy lywodraeth ganolog a llywodraeth leol a gwefan Canllaw i Bensiynwyr. Mae'r Canllaw i Ymddeoliad hefyd yn ddefnyddiol iawn.

Cewch ragor o wybodaeth am Gredyd Pensiwn ar y wefan hon.