Pensiwn y Wladwriaeth Ychwanegol
Fel y mae'r enw yn ei awgrymu, telir Pensiwn y Wladwriaeth yn ychwanegol (a elwir hefyd yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth ac yn gynharach yn Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion neu (SERPS)) yn ychwanegol i'r Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol. Hyd at fis Ebrill 2002, roedd yn cael ei adnabod fel SERPS ac yn dibynnu'n llwyr ar y cyfraniadau Yswiriant Gwladol y gwnaethoch eu talu fel cyflogai.
O fis Ebrill 2002, diwygiodd Ail Bensiwn y Wladwriaeth SERPS i ddarparu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol gwell i enillwyr is a chymedrol, ac i ehangu mynediad i gynnwys rhai gofalwyr a phobl anabl hirdymor. Efallai y gallwch gael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol hyd yn oed os nad ydych yn cael unrhyw Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.
Caiff unrhyw hawliad SERPS sydd eisoes wedi cronni ei ddiogelu ar gyfer y rhai sydd eisoes wedi ymddeol ac ar gyfer y rhai nad ydynt eto wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Cewch ragor o wybodaeth am etifeddu SERPS ar y wefan hon.
Sut ydw i'n gwybod os oes gennyf Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol?
Gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, sy'n rhoi gwybod i chi faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth gallwch ddisgwyl ei gael a ph'un a oes gennych unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol a'i peidio.
Cewch ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein
Gwelwch os gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein. Bydd hyn yn dweud wrthych faint o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol a Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol y gallech gael pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Cewch ragolwg pensiwn arlein yn syth ewasanaeth

Gwneud y gorau o fywyd diweddarach
Mae adran Dros 50 gwefan Directgov yn eich cyfeirio i'r cyfeiriad cywir ar gyfer help a chyngor sydd ar gael drwy'r Llywodraeth a mudiadau gwirfoddol.
Mae'n darparu gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer mudiadau cymunedol a gwirfoddol, cyfleon hyfforddiant a chyngor ar iechyd a ffitrwydd.
Rhagor am Bensiynau'r Wladwriaeth
Gallwch ddarllen ac argraffu, neu archebu copi o Bensiynau'r Wladwriaeth - Eich canllaw o'n canolfan adnoddau.


