Pam ein bod ni yma
Bydd dod â’n gwasanaethau sy’n gysylltiedig â phensiwn ynghyd yn darparu gwasanaeth ymroddedig sy’n gyfleus i chi. Os oes gennych ymholiad, gallwch gysylltu â ni o’ch cartref, naill ai dros y ffôn neu drwy’r post. Hefyd gallwch anfon e-bost atom. Gallwch ddod i wybod sut i wneud hynny yn Cysylltu â ni
Newidiadau i’r gwasanaeth
Bydd Y Gwasanaeth Pensiwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi pryd bydd canolfan bensiwn yn dechrau delio â’ch achos.
Nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth. Ni fydd angen i chi wneud cais am eich taliadau eto.
Os telir eich Pensiwn y Wladwriaeth drwy Daliad Uniongyrchol i mewn i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, dylech barhau i ddelio â Phensiynau Uniongyrchol ar 0845 301 3011 - mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8am i 8.00pm (ffôn testun ar gyfer pobl sydd â nam ar eu clyw neu ar eu lleferydd ar 0845 301 3012).
Os nad ydych yn siwr gyda phwy y dylech ddelio, ewch i Cysylltu â ni lle gallwch edrych ble mae eich swyddfa agosaf drwy roi eich cod post.
Taliad Uniongyrchol yw’r ffordd newydd y telir pensiynau, budd-daliadau a chredydau treth oherwydd bod llyfrau archebu, sieciau giro ac archebion taladwy yn cael eu dileu yn raddol.
Gwasanaeth lleol
Byddwn yn darparu gwasanaeth wyneb-yn-wyneb lle bo angen ac yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol eraill i roi cymorth wrth gyflwyno gwasanaethau sy’n gysylltiedig â phensiwn. Byddwn yn gwneud y trefniadau hyn yn seiliedig ar eich anghenion penodol.
Sefydlir gwasanaeth lleol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Dewch o hyd i ragor o fanylion am bwyntiau gwybodaeth Gwasanaeth Lleol. Dewch o hyd i ragor o fanylion am bwyntiau gwybodaeth Gwasanaeth Lleol sy’n digwydd yn agos atoch chi.


