Amdanom ni

Ynglyn â'r wefan hon

Mae gwefan Y Gwasanaeth Pensiwn yn darparu gwybodaeth ddiduedd Llywodraeth y DU am bensiynau’r wladwriaeth a phensiynau preifat, p’un a ydych wedi ymddeol, yn agosáu at ymddeol neu’n cynllunio ymlaen llaw ar gyfer ymddeol. Mae hefyd yn cynnwys canllaw ymarferol i’r cymorth sydd ar gael ar draws y Llywodraeth i bobl sydd wedi ymddeol (Canllaw pensiynwyr).

Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau. Rhagor o wybodaeth am Y Gwasanaeth Pensiwn

Ar wefan Y Gwasanaeth Pensiwn dewch o hyd i:

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ddod o hyd iddo ar y wefan hon, ewch i fap y wefan.

Os ydych yn ddarparwr pensiwn neu’n ymgynghorydd ariannol, ymwelwch â’r adran darparwr/ymgynghorydd.

Os ydych yn gyflogwr, dewch o hyd i fwy o wybodaeth yn yr adran cyflogwyr.

Rhyddid Gwybodaeth

Derbyniodd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) Gydsyniad Brenhinol ar 30 Tachwedd 2000. Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl i unrhyw berson, o unrhyw genedligrwydd, unrhyw le yn y byd, ofyn am wybodaeth swyddogol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ac unrhyw awdurdodau cyhoeddus eraill.

Mae’r hawl yn amodol ar rai eithriadau. Dechreuodd yr hawliau mynediad hyn ar 1 Ionawr 2005.

Cewch ragor o wybodaeth am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau

Gwefannau sy’n gysylltiedig â’r Adran Gwaith a Phensiynau

Y Fargen Newydd – mae’n rhoi help a chymorth i bobl sy’n gwneud cais am fudd-daliadau i chwilio am waith, dod o hyd i gyfleoedd hyfforddiant a pharatoi at waith, yn cynnwys gwybodaeth am y Fargen Newydd 50 a throsodd.
Ewch i wefan y Fargen Newydd

Ydych chi dros 50? - canllaw ymarferol i gyngor, cymorth a gwasanaethau sydd ar gael drwy Lywodraeth y DU a sefydliadau gwirfoddol, ar gyfer pobl 50 oed a throsodd.
Ewch i wefan Ydych chi dros 50?

Yn Gadarn O Blaid Oedran – gwybodaeth am ymgyrch Yn Gadarn o Blaid Oedran y Llywodraeth i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran a hyrwyddo amrywiaeth oedran yn y gweithle.
Ewch i wefan Yn Gadarn o Blaid Oedran

Pobl anabl a gofalwyr

Mae’r Llywodraeth yn ei wneud yn haws i chi gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau drwy wefan o’r enw Directgov. Mae’n darparu gwybodaeth am bobl anabl a gofalwyr mewn meysydd fel cyflogaeth, iechyd ac addysg, yn ogystal â chyngor ar gymorth ariannol, byw yn annibynnol a hawliau.

Rhagor o wybodaeth am Directgov i bobl anabl (nid gwefan Yr Adran Gwaith a Phensiynau).

Rhagor o wybodaeth am Directgov i ofalwyr (nid gwefan Yr Adran Gwaith a Phensiynau).

I gael rhagor o wybodaeth am amrywiaeth o fudd-daliadau a gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n sâl neu sydd ag anabledd, ewch i ran pobl anabl a gofalwyr gwefan Yr Adran Gwaith a Phensiynau

I gael gwybodaeth polisi am hawliau pobl anabl a gwybodaeth am ddeddfwriaeth anabledd y DU, ewch i wefan Directgov

Gwefannau eraill Yr Adran Gwaith a Phensiynau

Y Ganolfan Byd Gwaith – help i ddod o hyd i swyddi a gwybodaeth am fudd-daliadau, i bobl o oedran gweithio, yn cynnwys chwiliad gwaith gyda mynediad i dros 400,000 o swyddi gwag.
Ewch i wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau

Yr Asiantaeth Cynnal Plant - gwybodaeth am sut mae’r Asiantaeth Cynnal Plant yn asesu. casglu a thalu cynhaliaeth cynnal plant, yn cynnwys cyfrifiannell cynhaliaeth plant.
Ewch i wefan yr Asiantaeth Cynnal Plant

Targedu lladron budd-daliadau - gwybodaeth am ymgyrch Targedu lladron budd-daliadau a gweithgaredd ehangach yr Adran Gwaith a Phensiynau yn erbyn lladrad budd-daliadau a thwyll. Gallwch hefyd roi gwybod am bobl rydych yn eu hamau o ladrad budd-daliadau.
Ewch i wefan Targedu lladron budd-daliadau

I gael rhagor o wybodaeth am yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gyffredinol, ymwelwch â gwefan yr Adran Gwaith a Phensiynau